Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 20 Hydref
2015
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3463
Croesawodd y Llywydd ddirprwyaeth o Bwyllgor Deisebau Senedd Talaith Baden Württemberg a oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Dechreuodd yr eitem am 14.29
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Dechreuodd yr eitem am 15.40
NDM5846 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.54
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5845 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2015, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gydweithio er mwyn cyhoeddi amserlen ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau yn ei strategaeth iaith, 'Iaith fyw: iaith byw', erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei strategaeth iaith 'Iaith fyw: iaith byw' i wneud 'safonau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau'r sector preifat sy'n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5845 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2014-15, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2015, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei strategaeth iaith 'Iaith fyw: iaith byw' i wneud 'safonau a fydd yn galluogi'r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau'r sector preifat sy'n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau'.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.29
NDM5847 Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
Gosodwyd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 1 Mai 2015.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 9 Hydref 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.21
NDM5848 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.21
NDM5849 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Cymru).
Gosodwyd Bil yr Amgylchedd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 11 Mai 2015.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Fil yr Amgylchedd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 9 Hydref 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.26
NDM5850 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil yr Amgylchedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5855 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
9 |
17 |
52 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.51
Daeth y cyfarfod i ben am 18.54
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 21 Hydref 2015